Deiseb P-05-753: Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol o Amgylch Cyfleusterau Prosesu Pren  Gwastraff

 
#

 

 

Y Pwyllgor Deisebau |  23 Mai 2017

Y Pwyllgor Deisebau – 23 May 2017

 

Petitions Committee | 29 June 2016

 

 

 
 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-753

Teitl y ddeiseb: Cryfhau'r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol o Amgylch Cyfleusterau Prosesu Pren  Gwastraff

Testun y ddeiseb:

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

Roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus perthnasol eraill i weithio gyda'i gilydd i ddefnyddio eu pwerau a'u dyletswyddau presennol i gymryd camau gorfodi effeithiol ac effeithlon o fewn y diwydiant ailgylchu.

Cryfhau'r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol lle bo angen er mwyn galluogi cyrff cyhoeddus perthnasol i gymryd camau gorfodi mwy effeithlon ac effeithiol (gan gynnwys monitro), a'u galluogi i erlyn a rhoi cosbau ariannol cryfach ar gwmnïau a chyfarwyddwyr cwmni unigol sy'n torri eu rheoliadau gweithredol megis amodau cynllunio neu delerau eu trwyddedau gweithredol a thrwyddedau amgylcheddol.

Adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol i ganiatáu i'r cyhoedd, y Gwasanaethau Tân ac Achub a chyrff cyhoeddus eraill i adennill costau delio â digwyddiadau, megis y tân diweddar yn South Wales Wood Recycling Ltd, os ceir bod achos y tân o ganlyniad i esgeulustod, gweithredu troseddol neu dorri rheoliadau, amodau neu ganiatâd arall gan y cwmni.

Adolygu rheolau diogelu'r amgylchedd a rhoi canllawiau i awdurdodau lleol i sicrhau nad yw'r holl gyfleusterau prosesu pren gwastraff yn cael eu lleoli yn agos at eiddo preswyl, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu safleoedd o bwysigrwydd ar gyfer cadwraeth natur.

Cynnal asesiad cynhwysfawr ar oblygiadau iechyd tymor hir anadlu llwch pren a achosir gan brosesu pren gwastraff a gwneud asesiad parhaus o'r dyddodion llwch mewn cyfleusterau prosesu pren.

Y diwydiant ailgylchu pren

 Dros y blynyddoedd diwethaf, mae swm y pren gwastraff sy'n cael ei ailgylchu wedi codi. Mae'rGymdeithas Ailgylchwyr Pren (WRA) yn amcangyfrif bod y DU yn cynhyrchu tua 4.5 miliwn tunnell o bren gwastraff y flwyddyn. Yn 2011 cafodd 60% o hynny ei ailgylchu, cynnydd o lai na 25% yn 1996. Mae'r WRA yn disgwyl cynnydd pellach. Byddai pren gwastraff a ailgylchwyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer porthiant traddodiadol ar gyfer y diwydiant byrddau panel (sy'n cynrychioli'r rhan fwyaf o bren wedi'i ailgylchu), deunydd gwely i anifeiliaid, arwynebau marchogaeth a thirlunio, mannau chwarae a gwelyau hidlo.

Mae'r papur briffio hwn yn rhoi cefndir i'r fframweithiau rheoleiddio ailgylchu pren gwastraff gyda lincs i'r ddeddfwriaeth berthnasol. Mae'n cynnwys gwybodaeth am ddeddfwriaeth yr UE, trwyddedu, gorfodi a chosbau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), cynllunio, mesurau diogelwch tân, manylion digwyddiadau tân South Wales Wood Recycling Ltd, cod ymarfer a goblygiadau iechyd. Mae hefyd yn amlinellu camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Deddfwriaeth yr UE

Mae Cyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yr UE yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer casglu, cludo, adennill a gwaredu gwastraff. Mae'r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod-wladwriaeth gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod gwastraff yn cael ei adfer neu ei waredu heb beryglu iechyd pobl neu achosi niwed i'r amgylchedd ac mae'n cynnwys gofynion trwyddedu, cofrestru ac arolygu.

Trwyddedu

Er mwyn gweithredu cyfleuster ailgylchu gwastraff pren, bydd angen ar gwmni fel arfer drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010. Mae'n rhaid i'r gweithredwr ddilyn holl amodau'r drwydded a all fod naill ai'n safonol neu'n bwrpasol. Mae torri'r amodau hyn yn erbyn y gyfraith.

Prif amcan y drwydded yw atal niwed i iechyd pobl a'r amgylchedd. Er enghraifft, ni ddylai gweithgareddau dan drwydded, o dan reolau safonol, gael eu cynnal o fewn 500 medr o safleoedd o bwysigrwydd cadwraethol ee Safle Ewropeaidd, safle Ramsar neu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu 200 metr o weithle neu annedd preswyl. Mae amodau'n cynnwys rheolaethau ar y mathau a'r symiau o wastraff y gellir eu trin, uchder a gofod rhwng pentyrrau a rhagofalon tân i leihau'r risg o dân.

Mae CNC wedi cynhyrchu Nodiadau Cyfarwyddyd Rheoleiddio,  Canllawiau Llorweddol, y Pecynnau Offer System Rheoli Amgylcheddol  a  chyfarwyddyd pellach i gefnogi cydymffurfiaeth â thrwyddedau amgylcheddol.

Gorfodi a chosbau

Mae CNC yn cynnal asesiadau, arolygiadau ac yn mynychu digwyddiadau i asesu cydymffurfiaeth â thrwyddedau.

Mae polisi Gorfodi ac Erlyn CNC (103KB DOC)  yn amlinellu'r camau y gall CNC eu cymryd lle maent yn amau ​​bod trosedd wedi digwydd neu ar fin digwydd. Mae'r gorfodi hwn yn amrywio o ddarparu cyngor ac arweiniad, i gyflwyno hysbysiadau, i erlyn. Mae gan CCC y gallu i amrywio neu ddirymu trwydded amgylcheddol. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyfarwyddo'r rheoleiddiwr (CNC yn yr achos hwn) wrth arfer ei swyddogaethau, er enghraifft os yw'r mater o arwyddocâd rhanbarthol neu genedlaethol.

Lle mae'r gyfraith yn caniatáu, bydd CNC yn ceisio adennill costau gweithdrefnau ymchwilio a gorfodi. Lle mae CNC yn mynd i gostau, er enghraifft drwy waith adfer, bydd yn ceisio adennill y costau llawn yr aethpwyd iddynt gan y rhai sy'n gyfrifol yn unol â'r 'egwyddor y llygrwr sy'n talu'.

O ran cosbau ariannol, mae'r prif dramgwyddau troseddol mewn perthynas â  gweithrediadau gwastraff yn golygu dirwy ddiderfyn o dan y Ddeddf Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr, Cymorth Cyfreithiol 2012 ac mae gan y llysoedd ddisgresiwn eang. Diwygiwyd canllawiau gan y Cyngor Dedfrydu (PDF 191.10KB) yn 2014 er mwyn helpu llysoedd troseddol wrth iddynt ddedfrydu troseddau amgylcheddol. Nid yw'r System Farnwrol wedi'i datganoli. 

Pan mae CNC yn ystyried y camau gweithredu priodol i sicrhau cydymffurfiaeth mae'n dilyn Egwyddorion Cosb Macrory a nodir yn y Cod Cydymffurfio Rheoleiddwyr. Mae'r rhain yn datgan y dylai sancsiynau gorfodi:

§    anelu at newid ymddygiad y troseddwr;

§    anelu at ddileu unrhyw elw ariannol neu fudd o beidio â chydymffurfio;

§    bod yn ymatebol ac ystyried yr hyn sy'n briodol ar gyfer y troseddwr penodol a'r mater rheoleiddio, a all gynnwys cosb a'r stigma cyhoeddus a ddylai fod yn gysylltiedig â chollfarn droseddol;

§    yn gymesur â natur y drosedd a'r niwed a achoswyd;

§    yn anelu at adfer y niwed a achosir gan ddiffyg cydymffurfio rheoleiddiol, lle y bo'n briodol; ac

§    anelu at atal diffyg cydymffurfio yn y dyfodol.

Mae CNC wedi cynhyrchu  Canllawiau ar Orfodi a Chosbau (611KB DOC)  sy'n rhoi rhagor o wybodaeth.

Mae'r ddeddf Gorfodi a Sancsiynau Rheoleiddiol 2008 yn anelu at wella gwaith rheoleiddwyr trwy resymoli arolygu a gorfodi tra'n cynnal cydymffurfiad. Mae'n nodi ystod o sancsiynau sifil ar gyfer diffyg cydymffurfio â rheoleiddio i'w defnyddio fel dewis amgen i erlyniad troseddol. Mae'r sancsiynau sifil a gyflwynwyd o dan y Ddeddf yn cynnwys: 

§    Cosb Ariannol Sefydlog;

§    Gofynion yn ôl disgresiwn, gan gynnwys:

-     Cosb Ariannol Amrywiol;

-     Hysbysiad Cydymffurfio; a  

-     Hysbysiad Adfer.   

§    Ymgymeriad Gorfodi; a

§    Hysbysiad Atal.

Cynllunio

Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio ar gwmni ailgylchu pren cyn gwneud datblygiadau o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (1990). Gall yr awdurdod cynllunio lleol roi caniatâd gydag amodau, er enghraifft, trwy gyfyngu ar yr hyn y gellir ei wneud ar y safle.

 Nid yw torri amodau cynllunio ynddo'i hun yn anghyfreithlon a bydd y cyngor yn aml yn caniatáu cais ôl-weithredol lle nad yw caniatâd cynllunio wedi'i geisio. Fodd bynnag, os bydd y toriad yn cynnwys datblygiad a wrthodwyd yn flaenorol (neu fod y cais ôl-weithredol yn methu) gall yr awdurdod lleol roi hysbysiad gorfodi.

Mae canllawiau i awdurdodau lleol wedi'u nodi yn Nodyn Cyngor Technegol  (TAN) 21 a TAN 5. Maent yn nodi polisïau cynllunio cenedlaethol Cymru mewn perthynas â gwastraff a diogelu'r amgylchedd naturiol ac adeiledig.

Tanau mewn safleoedd ailgylchu pren

Mae diogelwch tân yn ystyriaeth o bwys o ran rheoleiddio gan fod nifer o danau wedi digwydd yn ddiweddar ar safleoedd sy'n ymwneud â storio, trin a thrafod pren a chynhyrchion pren wedi'u lleoli yng Nghymru.

Mae cylch gwaith CNC yn cynnwys risgiau amgylcheddol o danau mewn safleoedd rheoli gwastraff.

Yr Awdurdod Tân ac Achub Lleol (ATA) sy'n gyfrifol am orfodi diogelwch tân cyffredinol o dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) sy'n gyfrifol am risgiau a deddfwriaeth benodol megis y Rheoliadau Sylweddau Peryglus ac Atmosfferau Ffrwydrol 2002.

Asesu a chynlluniau

Mae cyfarwyddyd wedi cael ei gynhyrchu, a'i ddiwygio'n  ddiweddar (Ebrill 2017), gan Fforwm Iechyd a Diogelwch y Diwydiant Gwastraff (WISH)  Reducing fire risk at waste management sites (PDF: 3.49MB)  i helpu gweithredwyr a deiliaid dyletswydd eraill i reoli risgiau tân.

Rhaid i gwmnïau gynnal asesiad o'r risgiau tân ar bob safle, ac yn seiliedig ar yr asesiad hwn roi rheolaethau a mesurau priodol ar waith. Mae arweiniad cyffredinol ar asesiadau a chynlluniau risg tân ar gael ar wefan gov.uk. Yn fras mae asesiad risg tân yn cynnwys:

§  nodi lle ar safle mae deunyddiau hylosg a/neu fflamadwy;

§  nodi lle ar safle mae yna ffynonellau tanio posibl; ac

§  o'r wybodaeth uchod roi cynllun ar waith o reolaethau a mesurau sy'n anelu at leihau'r risg o dân yn digwydd a'r effaith pe byddai tân yn digwydd.

Argymhellir hefyd bod cynllun risg tân yn cynnwys trafodaeth gyda'r Gwasanaeth Tân ac Achub lleol (FRS) ynghylch eu strategaeth diffodd tân debygol ar gyfer y safle.

Tanau South Wales Wood Recycling Ltd

Ym mis Tachwedd 2016  rhoddwyd dirwy i South Wales Wood Recycling Ltd o £20,000 yn dilyn dau dân mewn safleoedd ar wahân. Dechreuodd tân sglodion pren yn Nociau Alexandra, Casnewydd, ym mis Tachwedd 2015, ac un arall ym Maesteg, Pen-y-bont ym mis Mawrth 2016.

Cafodd South Wales Wood Recycling Ltd ddirwy am:

§    fethiant i gydymffurfio â/mynd yn groes i ofynion amod trwydded amgylcheddol (Casnewydd). Roedd trwydded y cwmni yn pennu na ddylai'r pentyrrau fod yn fwy na 7,500 tunnell a dylid eu rhannu yn ddau bentwr o ddim mwy na 7 metr o uchder gyda rhwystr tân rhyngddynt. Cafwyd y cwmni yn euog o fynd y tu hwnt i'r terfynau hyn. Er enghraifft, roedd gan y cwmni tua 20,000 tunnell o wastraff sglodion pren ar y safle  yn aros i'w gasglu; a

§    chadw gwastraff wedi'i reoli, sef sglodion pren, mewn modd sy'n debygol o achosi llygredd neu niwed i iechyd dynol (Casnewydd a Maesteg).

Cyn y digwyddiadau, roedd CNC wedi cymryd camau gweithredu. Yn safle Casnewydd roedd CNC wedi cyflwyno hysbysiad gorfodi ym mis Tachwedd 2015 ar y gweithredwyr i fynd i'r afael â'r cyflenwad a lleihau'r perygl o dân.

Ym mis Medi 2016, dechreuodd trydydd tân ar safle South Wales Wood Recycling Ltd yn Heol-y-Cyw, Pen-y-bont.

Ym mis Ionawr 2017 cyflwynodd CNC hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i South Wales Wood Recycling Ltd i dynnu'r holl ddeunydd gwastraff a ddifrodwyd gan dân a osodwyd y tu allan i'r ardal drwyddedu yn safle Heol-y-Cyw. Rhaid cydymffurfio â'r hysbysiad hwn erbyn 30 Mawrth 2018.

Ym mis Chwefror 2017, gwnaeth CNC wrthod cais am drwydded amgylcheddol gan South Wales Wood Recycling Ltd ar gyfer cyfleuster storio a thrin gwastraff yn ne orllewin Cymru.

Goblygiadau iechyd anadlu llwch pren

Mae ailgylchu pren yn cynnwys llwytho pren gwastraff i mewn i beiriant asglodi gyda rhaw neu gydiwr wedyn trosglwyddo'r sglodion coed gyda rhaw neu gludwr. Mae hyn yn cynhyrchu llwch pren a gall lefelau amlygiad gweithwyr o bosibl fod yn uchel. Mae hon yn broblem arbennig yn ystod glanhau a chynnal a chadw peiriannau'n rheolaidd sy'n aml yn cynnwys aer cywasgedig.

Mae'r HSE wedi comisiynu adroddiad (PDF 781.37KB)  i asesu graddau'r perygl i iechyd o'r amlygiad hwn i lwch pren. Mae'r HSE yn nodi er mwyn lleihau'r peryglon i iechyd gweithwyr o amlygiad i lwch pren, dylai cwmnïau ailgylchu:

§  have a suitable COSHH assessment of their employees’ exposure to wood dust;

§  control dust at source by the use of water suppression and extraction;

§  ensure plant and equipment is properly maintained to control dust leaks etc.;

§  have high-level health surveillance in place; and

§  ensure employees who clean and maintain machinery are not excessively exposed to wood dust by:

-     providing them with suitable respiratory protective equipment that they have been trained to use and face fitted for; and

-     providing industrial vacuums for cleaning plant and machinery, rather than using compressed air, when it is practicable to do so.

Mae Defra hefyd wedi cynhyrchu  canllawiau (PDF: 487.28KB)  ar gyfer gwaith pren a gweithgynhyrchu cynhyrchion o bren.

Cod ymarfer ailgylchu pren

O ganlyniad i'r twf yn y diwydiant, mae'r Gymdeithas Ailgylchwyr Pren (WRA) wedi datblygu Cod Ymarfer Ailgylchu Pren (PDF: 175.27KB)  er mwyn hwyluso gweithrediadau ailgylchu pren cyfrifol. Mae cofrestru gyda'r cod yn wirfoddol yn hytrach nac yn ofyniad cyfreithiol, er bod rhai cyrff masnach yn gwneud cyfranogi yn y cod yn un o'u gofynion aelodaeth. Dywed bod y cod yn rhoi 'a system of certification for management systems for environmental, health, safety and quality issues at reasonable cost'.

Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynhaliodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddadl fer ar 5 Hydref 2016 ar  Ddiogelwch, storio a gwaredu biomas a chynnyrch pren halogedig gan gwmni South Wales Wood Recycling. Gwnaeth Huw Irranca Davies AC saith awgrym penodol:

Yn gyntaf, gadewch i ni sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen bach, am gyfnod penodol i adolygu’r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer rheolaethau trwyddedu a chynllunio gweithrediadau gwastraff ac ailgylchu, ac edrych ar y posibiliadau ar gyfer ymestyn fframwaith cyfraith droseddol yn y maes hwn.

 Yn ail: ceisio cryfhau yn sylweddol y cosbau ariannol am dorri amodau trwyddedau cynllunio a thrwyddedau amgylcheddol, sydd mor ddi-nod ar hyn o bryd nes eu bod yn aml yn cael eu hystyried yn bitw a dibwys gan y troseddwyr a dweud y gwir. Dylai pen uchaf y cosbau i’r rhai sy’n mynd ati’n fwriadol i dramgwyddo neu’n tramgwyddo dro ar ôl tro achosi embaras ariannol a phersonol eithafol i gyfarwyddwyr cwmni unigol yn ogystal â pherchnogion neu gyfranddeiliaid.

Yn drydydd: archwilio ffyrdd o osod cosbau’n uniongyrchol yn erbyn cyfarwyddwyr a enwyd a pherchnogion cwmnïau, gan gynnwys y posibilrwydd o atal neu wahardd unigolion sy’n euog o droseddau a ailadroddir neu droseddau difrifol rhag cael swyddi mewn sectorau cysylltiedig o’r diwydiant—enwi a chywilyddio am drosedd gyntaf neu drosedd lai, ond eu rhwystro rhag cael swyddi o’r fath am droseddau difrifol neu droseddau a ailadroddir.

 Yn bedwerydd: cyflwyno cynigion i symleiddio a gwella’r broses o gydlynu ymchwiliadau rhwng sefydliadau megis asiantaethau gorfodi ac awdurdodau cynllunio.  Bydd gwella’r broses o rannu data gwybodaeth ac arbenigedd cyfreithiol yn helpu i gydbwyso cyfiawnder.

Pump: datblygu ffyrdd newydd o gael gwared yn gyfan gwbl ar rannau o’r broses hon o achosion cyfreithiol a barnwrol, sy’n gostus i’r trethdalwr ac yn llyncu amser asiantaethau gorfodi, yn rhwystredig i drigolion ac eraill yr effeithir arnynt gan broblemau parhaus.

Chwech: ymestyn hysbysiadau atal a phwerau gorfodi eraill i gwmpasu caniatadau sy’n bodoli eisoes, nid troseddau newydd a datblygiadau newydd yn unig, fel bod modd gorfodi hysbysiadau atal a chosbau eraill ar weithrediadau presennol lle maent yn groes i amodau trwyddedu neu gynllunio.

 A saith: archwilio’r posibilrwydd o ymestyn cyfraith droseddol i gwmpasu meysydd newydd a gwmpesir ar hyn o bryd gan gyfraith gynllunio a chyfraith amgylcheddol, megis risg ddifrifol i amwynder, a chaniatáu i awdurdodau lleol bennu’r hyn yw’r risg ddifrifol honno. Byddai hyn yn caniatáu i'r Ddeddf Elw Troseddau 2002 gael ei chymhwyso i achosion o dorri, fel y gallai elw a wneir gan ymddygiad troseddol gael ei atafaelu i'r cyhoedd.

Cefnogodd Caroline Jones AC a Suzy Davies AC y datganiad hwn.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd y Pwyllgor Deisebau at  Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ynghylch y ddeiseb. Mae ei hymateb yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu'r Llywodraeth a CNC yn y maes hwn sy'n cynnwys y canlynol:

§    Ni fydd CNC fel y corff gwneud penderfyniadau statudol yn cael ei gyfarwyddo gan Weinidogion Cymru mewn unrhyw benderfyniad i ddirymu trwydded o South Wales Wood Recycling Ltd gan fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar y mater fel un lleol yn hytrach na'i fod o arwyddocâd rhanbarthol neu genedlaethol;

§    Mae CNC yn parhau i asesu a wnaeth rheolaeth safle South Wales Wood Recycling Ltd yn Heol-y-Cyw gyfrannu at y tân ac yn ymchwilio i unrhyw achos posibl o dorri'r drwydded. Maent yn adolygu'r dystiolaeth ac yn ystyried a yw camau pellach yn briodol;

§    Cyflwynwyd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 3) 2015  i gryfhau pwerau CNC o dan y gyfundrefn trwyddedu amgylcheddol fel rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â throseddau gwastraff. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn haws i CNC atal trwyddedau, cael gwared ar y perygl o lygredd a chael gwaharddeb i orfodi cydymffurfio â hysbysiadau gorfodi;

§    Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno pwerau pellach eleni a fydd yn galluogi CNC i wahardd mynediad i safle er mwyn atal rhagor o wastraff rhag dod i mewn, ac i wneud y rhai sy'n cadw gwastraff yn anghyfreithlon ar eu tir, neu yn caniatáu cadw o'r fath, yn gyfrifol am ei symud;

§    Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori yn ystod yr haf ar gynigion ar gyfer cryfhau gofynion cymhwysedd gweithredwr y bydd yn ofynnol i weithredwyr eu dangos cyn i drwydded gael ei rhoi ac yn ystod eu gweithrediadau;

§    bydd cynnig pellach yn edrych ar gam-drin y gyfundrefn eithriadau gwastraff sy'n caniatáu gweithgareddau adfer i  weithredu heb yr angen am drwydded;

§    mae cynigion ym Mil Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhai a erlynir am waredu gwastraff yn anghyfreithlon i dalu treth ar y gwastraff;

§    mewn ymateb i gynnig y ddeiseb i gyrff cyhoeddus adennill y costau os ceir bod y tân o ganlyniad i esgeulustod, mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod defnyddio pwerau presennol yn ddull gwell na chodi tâl, gan ddweud pe byddai tâl yn cael ei godi ar fusnesau, ni fyddai unrhyw reswm dros beidio â chodi tâl ar breswylwyr;

§    mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru a CNC i weithio gyda'i gilydd i baratoi canllawiau arfer gorau ar y rhyngwyneb rhwng cyfundrefnau cynllunio a thrwyddedu amgylcheddol;

§    yn nhermau effeithiau iechyd, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn tynnu sylw at y  trwyddedau amgylcheddol sy'n ofynnol ar gyfer rhai gweithgareddau prosesu pren i reoli allyriadau ac effeithiau ar iechyd y cyhoedd. Dywed y dylai rheoleiddio a gorfodi mesurau rheoli i atal effeithiau oddi ar y safle a chydymffurfio â thrwyddedau gweithredu fod yn fesur diogelu iechyd digonol. Mae hi hefyd yn nodi bod amodau cynllunio yn cynorthwyo i reoli allyriadau ac effeithiau ar amwynderau lleol, a bod y prosesau sy'n gweithredu islaw trothwyon trwyddedu yn dal yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth niwsans statudol.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.